Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Hydref 2015

 

 


Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter

1.     Ar 6 Hydref 2015 cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Menter a Busnes i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaetholar gyfer y Bil Menter.

2.    Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 26 Tachwedd 2015.